Cefndir Vikki

Vikki Howells yw Aelod Cynulliad Llafur Cymru dros Gwm Cynon. Cafodd Vikki ei geni a’i magu yn yr etholaeth ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Ioan Fedyddiwr, cyn mynychu Prifysgol Cymru, Caerdydd lle cafodd Radd Baglor mewn Hanes Rhyngwladol a Hanes Cymru, a Gradd Meistr mewn Hanes Cymru Fodern. Yn ystod ei hamser yn astudio yng Nghaerdydd, derbyniodd Vikki wobr Charles Morgan i gydnabod ei chyfraniad i faes Hanes Cymru.

Gweithiodd Vikki fel athrawes Hanes yn Ysgol Gymunedol St Cennydd, Caerffili o 2000 i 2016, a chafodd sawl rôl fugeiliol yno, yn gwasanaethu fel Dirprwy Bennaeth y Chweched Dosbarth yn fwyaf diweddar. Mae Vikki hefyd wedi bod yn gweithio fel mentor i athrawon dan hyfforddiant ac wedi bod yn aelod o banel derbyniadau’r cwrs TAR Hanes ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Ymunodd Vikki â’r Blaid Lafur yn 17 oed ac mae wedi ymgymryd â sawl rôl ym Mhlaid Lafur Etholaeth Cwm Cynon, gan gynnwys Swyddog Menywod a Chadeirydd CLP.

Mae’n fraint gan Vikki fod yn Llywydd Friends R Us ac yn Is-lywydd Côr Meibion Cwmbach. Mae Vikki hefyd yn aelod o Gymdeithas Hanes Cwm Cynon, Sefydliad Bevan, y Blaid Gydweithredol, y GMB ac USDAW.

O fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Vikki’n cadeirio Grŵp Llafur Cymru yr Aelodau Seneddol. Am restr lawn o’r Pwyllgorau a’r Grwpiau Trawsbleidiol y mae Vikki yn aelod ohonynt ewch i’w phroffil ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae diddordebau gwleidyddol Vikki yn cynnwys Addysg, Trafnidiaeth a’r Economi, Trechu Tlodi, Adfywio Cymunedol, a Threftadaeth a Diwylliant.